Adroddiad Drafft y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
CLA38
Teitl: The Alien and Locally Absent Species in Aquaculture (England and Wales) Regulations 2011 (Saesneg yn unig)
Gweithdrefn: Negyddol
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi rhoi ar waith Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 708/2007, ynghylch defnyddio rhywogaethau estron a rhywogaethau o du allan i’r ardal mewn dyframaethu.
Materion technegol: craffu
O dan Reol Sefydlog 21.2 bydd y Cynulliad yn cael ei wahodd i roi sylw arbennig i'r offeryn a ganlyn:
Cafodd y Rheoliadau hyn eu cynhyrchu yn Saesneg yn unig. Yn ogystal, ni chafwyd unrhyw esboniad dros y rheswm pan na chafodd y Rheoliadau hyn eu cynhyrchu’n ddwyieithog. Ymddengys mai’r rheswm dros hyn yw oherwydd mai Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a baratodd y memorandwm esboniadol ac fe gaiff ei osod gerbron y Senedd ar Orchymyn Ei Mawrhydi. Gan hynny, ni chafwyd unrhyw ymgais i roi sylw i weithdrefnau ac arferion y Cynulliad yn y Memorandwm.
(Rheol Sefydlog 21.2 (ix) nad yw wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg).
Rhinweddau: craffu
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i fod yn destun adroddiad o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Medi 2011
Mae’r Llywodraeth wedi ymateb fel a ganlyn:
Rheoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011
Mae Rheoliadau Rhywogaethau Estron a Rhywogaethau sy’n Absennol yn Lleol mewn Dyframaethu (Cymru a Lloegr) 2011 yn Rheoliadau cyfansawdd a fydd yn gymwys i Gymru a Lloegr, byddant yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad negyddol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru ac yn Senedd y Deyrnas Unedig fel ei gilydd. Yn unol â hynny, nid ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei wneud yn ddwyieithog na’i osod felly. Yn y dyfodol, mae’n ddymuniad gennym bod cyfieithiad cwrteisi i’r Gymraeg o offerynnau cyfansawdd fel hyn yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru, ar ôl i’r offeryn priodol gael ei wneud, gan gydbwyso’r dymuniad hwnnw gyda’r defnydd mwyaf effeithlon o adnoddau er mwyn cyflawni amcanion polisi Llywodraeth Cymru.
Mae’r Memorandwm Esboniadol sydd wedi ei osod mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn yn y fformad a fabwysiadwyd cyn y newidiadau diweddar i Reolau Sefydlog sy’n galluogi’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ystyried eitemau sydd hefyd yn ddarostyngedig i weithdrefnau Senedd y Deyrnas Unedig. O dan y Rheolau Sefydlog blaenorol, byddai Gweinidogion Cymru’n gosod Memorandwm Esboniadol o’r fath o’u gwirfodd i gynorthwyo’r aelodau wrth ystyried yr is–ddeddfwriaeth dan sylw. Yr ydym yn derbyn nad yw’r fformad hwn yn briodol bellach a sicrhawn fod staff yn ymwybodol o a) naill ai bod rhan Llywodraeth Cymru yn y gwaith o gynhyrchu’r Memorandwm Esboniadol yn cael ei gwneud yn eglur neu fod Memorandwm Esboniadol ar wahân yn cael ei gynhyrchu o ran Cymru i offerynnau cyfansawdd fel hyn; a b) yn y dyfodol dylai Memoranda Esboniadol gael eu cyfeirio at y Pwyllgor Cynulliad Perthnasol.